Beth gall Cwmni Coed Nant Conwy ei gynnig i chi?
Gwasanaeth Coedyddiaeth:
Gwaith cynnal a chadw gan gynnwys lleihau ac ail-siapio corunau; teneuo
corunau; codi corunau neu docio’r brigau isaf; angori, cleddu ac ategu coed;
tocio gwrychoedd; gwaith diogelu coed cyffredinol; gwasanaeth plannu
coed a gwasanaeth ymateb i argyfwng.
Gwasanaeth Coedwigaeth:
Torri coed; winsio; medi a chludo; plannu coed; gwaith clirio a thynnu coed.
Mae Cwmni Coed Nant Conwy yn gwmni profiadol ac yn gallu mynd i’r afael
ag unrhyw broblem yn ymwneud â choed mewn unrhyw sefyllfa neu leoliad.
Gwasanaeth Cyffredinol:
Ynghyd â’n gwasanaethau coed rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaeth torri
gwair; ffensio; codi waliau cerrig a gwerthu coed tân a sglodion coed.
Mae gan Wasanaeth Coedwigaeth Nant Conwy yswiriant llawn (hyd at £5miliwn
o Atebolrwydd Cyhoeddus) ac mae gan bob gweithiwr hyfforddedig gymwysterau
perthnasol a chyfredol yn ymwneud â’r diwydiant.
Mae’n holl waith yn bodloni Safon Argymhellion Gwaith Coed Prydain BS 3998
(2010) a chanllawiau cyfredol y diwydiant.
Dyma rai o’n cyn-gwsmeriaid a’n cwsmeriaid presennol:
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Cyfoeth Naturiol Cymru;
Parc Cenedlaethol Eryri; Cartrefi Conwy; Cyngor Gwynedd; Tai Gogledd Cymru;
Asiantaeth yr Amgylchedd a llawer o gleientiaid domestig.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os hoffech chi ddyfynbris am waith
yn ymwneud â choed, cysylltwch â Gwasanaeth Coedwigaeth Nant Conwy.